Logo Hebog Peniarth

Amdanom

Canolfan Peniarth yw un o'r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.

Yn rhan o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, rydym wedi cyhoeddi dros 300 o deitlau print yn lyfrau plant ac yn adnoddau addysg, yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, gwe a rhyngweithiol ac apiau ers ein sefydlu yn 2009.

Ein Cenhadaeth

Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau

Wedi’n sefydlu a’n lleoli o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sefydliad sydd â hanes hir a llwyddiannus fel un o brif ganolfannau hyfforddi athrawon, rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’r Brifysgol, sef i drawsnewid addysg ac i drawsnewid bywydau. Mae’r dysgwr yn ganolog i’n gwaith o ddydd i ddydd wrth gynllunio, datblygu, dylunio, a chyhoeddi.

Ein Gweledigaeth

Fel un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol yng Nghymru, ein nod yw i gynhyrchu a darparu adnoddau a gwasanaethau dwyieithog arloesol ar gyfer y sector addysg a fydd yn gallu ysbrydoli’r dysgwr i ffynu ar bob cam, ac yn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chyffrous.

Yn ganolog i’n cynllun busnes, mae meithrin a datblygu perthynas a chysylltiadau o fewn amryw rwydweithiau o rhanddeiliaid ar draws Cymru a thu hwnt, er mwyn sicrhau fod ein cynnyrch a’n gwasanaethau’n diwallu anghenion, ac yn cyfrannu at helpu plant a phobl ifanc i fod yn;

Ail Frandio

Yn nhymor yr Hydref 2019, mae'r Ganolfan yn dathlu deng mlwyddiant ers ein sefydlu. Fel rhan o ddathliadau’n penblwydd ni, rydym wedi ail-frandio’r Ganolfan.

Beth yw’r logo newydd?

Hebog. Aderyn a welir mewn llun nodedig o fewn un o lawysgrifau Peniarth.

Pam, sut a ble?

Mae’r Ganolfan wedi ei henwi ar ôl llawysgrifau Peniarth, sef casgliad o lawysgrifau Cymreig canoloesol. Mae’r casgliad yn cynnwys rhai o’r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a gafodd ei ysgrifennu yma yn nhref Caerfyrddin lle rydym wedi ein lleoli.

Hefyd yn rhan o’r llawysgrifau, mae testunau cynnar o Gyfraith Hywel Dda, sef hen gyfreithiau Cymreig a gafodd eu diweddaru gan Hywel Dda yn dilyn cyfarfod o gyfreithwyr a chlerigwyr o bob rhan o Gymru yn nhref Hendy-gwyn ar Daf yma yn Sir Gâr. Un o lyfrau Cyfraith Hywel Dda yw Llawysgrif Peniarth 28, ac yn hwn, ceir llun o’r hebogydd yn dal yr hebog sydd wedi’n hysbrydoli.

A dyma ni, ganrifoedd lawer yn ddiweddarach, yn mabwysiadu’r hebog i’n cynrychioli ni fel Canolfan. Dyma aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth, ac rydym wedi ymroi’n llwyr i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau a fydd yn darparu gweledigaeth a rhyddid i’r dysgwr i ffynu ac i fuddugoliaethu ar hyd eu bywyd.

Lowri Lloyd

Lowri Lloyd

Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethu Cymraeg

Jeni Price

Jeni Price

Rheolwr Peniarth

Gareth Smith

Gareth Smith

Rheolwr Gweithrediadau

Henry Young

Henry Young

Datblygwr Meddalwedd Symudol a Gwe

Sian Williams

Sian Williams

Cynhyrchydd Cyfryngau

Rhiannon Sparks

Rhiannon Sparks

Uwch Ddylunydd