Logo Hebog Peniarth

Cyhoeddi adnodd newydd i ddatblygu dychymyg dysgwyr Cyfnod Allweddol 2

Yn dilyn derbyn nawdd gan Gangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, mae Canolfan Peniarth wedi cyhoeddi adnodd newydd sy’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gyflwyno gwybodaeth, syniadau a barn drwy wrando, cydweithio a thrafod, er mwyn sbarduno eu sgiliau llefaredd.

Mae’r adnodd Llun a Thrin, yn becyn sy’n cynnwys set o 30 o gardiau lliwgar sy’n cynnwys delweddau a fydd yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddisgirfio’r hyn a welant gan ddehongli, defnyddio’r dychymyg a mynegi barn. Yn ogystal a delweddau amrywiol mae Llun a Thrin yn cynnig syniadau i athrawon o ran o ran cwestiynau trafod a gweithgareddau.

Dywedodd Cerys Gruffydd, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman, a fu’n cynorthwyo’r Ganolfan i dreialu’r adnodd gyda’u disgyblion yn ystod y broses ddatblygu “Mae hi wastad yn braf i gael adnodd newydd, Cymraeg fel Llun a Thrin. Mae’n bwydo’r fframwaith sgiliau llythrennedd yn berffaith. Er ei fod wedi dargedu ar gyfer sgiliau llythrennedd, mae’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau meddwl a sgiliau trafod mewn grwp. Mae modd gwneud y gweithgareddau ymarferol dan arweiniad athro, cynorthwydd, neu’n anibynnol, ac mae’r holl sgiliau sy’n dod ohonno yn werthfawr iawn”.

Mae’r adnodd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac eu awduro gan Bethan Clement a Non ap Emlyn, sy’n brofiadol iawn o ran creu a datblygu adnoddau perthnasol, apelgar a phoblogaidd ar gyfer y sector addysg yng Nghymru. Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, Mr Gwydion Wynne, “Rydym yn falch iawn i allu cyhoeddi Llun a Thrin, ac o fod wedi cael y cyfle i gydweithio gyda’r awduron Bethan Clement a Non ap Emlyn unwaith yn rhagor, yn dilyn derbyn nawdd gan Lwyodraeth Cymru. Mae’r adnodd yn edrych yn wych, ac mae ei gynnwys yn gyfoethog o ran darparu cyfleoedd i sbarduno amrywiaeth o drafodaethau gyda disgyblion. Mae’r adborth wedi bod yn wych yn y broses dreialu, ac ry’n ni’n edrych ymlaen i weld ymateb disgyblion ac ysgolion ar lawr y dosbarth mewn ysgolion ar draws Cymru yn dilyn ei gyhoeddi”.

Yn ogystal â’r adnodd print, mae Canolfan Peniarth wedi datblygu ystod o weithgareddau rhygnweithiol ar-lein, sydd ar gael am ddim ar HWB, sef platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Mae Llun a Thrin, ar gael i’w brynu o wefan Canolfan Peniarth, neu o’ch siop lyfrau lleol am £14.99.