Os hoffech archebu oddi wrth ein siop ar-lein ar gyfer y Nadolig, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod eich archebion wedi’n cyrraedd ni erbyn diwedd y dydd gwaith ar ddydd Llun 13 Rhagfyr, os gwelwch yn dda.
Bydd modd i chi archebu ar ein siop ar-lein wedi’r pwynt hynny, ond ni all ein canolfan ddosbarthu sicrhau y bydd eich archeb yn eich cyrraedd ar gyfer y Nadolig. Prosesir archebion a osodir dros gyfnod y Nadolig yn y flwyddyn newydd.
Carai tîm Peniarth ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Dymunwn Nadolig Llawen i chi, a Blwyddyn Newydd Dda.