Logo Hebog Peniarth

Dathlu’r Deg – Peniarth yn ail frandio fel rhan o ddathliadau’r Ganolfan yn 10 mlwydd oed

Eleni, mae Peniarth yn dathlu 10 mlwyddiant ers ei sefydlu. Fel rhan o’r dathliadau mae’r Ganolfan wedi ail frandio ac yn lansio logo newydd sbon.

Sefydlwyd Canolfan Peniarth yn 2009 gan Goleg y Drindod, sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach, fel adain gyhoeddi adnoddau i’r Coleg. Erbyn heddiw, mae’r Ganolfan wedi datblygu i fod yn un o’r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.

Gyda dros tri chant o gyhoeddiadau print a thros hanner cant o adnoddau digidol i’w henw, sy’n cynnwys wyth o apiau rhyngweithiol, mae Peniarth wedi cyhoeddi trawsdoriad eang o lyfrau ac adnoddau pwrpasol ac apelgar i bob oed. Dywedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, “Wrth edrych yn ôl ar yr holl gyhoeddiadau dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae yna gatalog swmpus o lyfrau ac adnoddau wedi eu cynhyrchu, ac mae hi wedi bod yn fraint i allu cydweithio gyda chymaint o bobl ar hyd y blynyddoedd, yn awduron profiadol, athrawon arloesol, amryw o unigolion creadigol amryddawn, yn ogystal â phartneriaid amlwg megis S4C, Llywodraeth Cymru, y pedwar consortia addysg a’r awdurdodau addysg lleol - partneriaid sydd wedi’n galluogi ni i esblygu ar hyd y blynyddoedd, gan ein cynorthwyo i gyrraedd y garreg filltir nodedig hon.”

Fel rhan o’r broses ail frandio, mae Peniarth wedi mabwysiadu logo newydd, sy’n cynnwys llun hebog, - aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth. Daw’r llun allan o un o lawysgrifau Peniarth, sef y casgliad hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, sy’n cynnwys llyfr du Caerfyrddin. Ceir esboniad llawn o hanes y logo ar wefan newydd sbon Peniarth, www.peniarth.cymru.

Un o’r adnoddau cyntaf i Peniarth ei chyhoeddi oedd Tric a Chlic, sef rhaglen ffoneg synthetig, strwythuredig sy’n sail i addysgu a sillafu ynghyd ag adeiladu geirfa a datblygu darllen ystyrlon. Yn sgil llwyddiant y rhaglen, yn gynharach eleni cyhoeddwyd addasiad o’r pecyn ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg. Dywedodd Gwydion Wynne, “Tric a Chlic yw un o’n cyhoeddiadau mwyaf llwyddiannus ni gyda mwyafrif ysgolion cyfrwng Cymraeg Cymru, a hyd yn oed Patagonia, yn gweithredu’r rhaglen. Yn sgil datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022, a chyfraniad y cwricwlwm hwn i nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym wedi datblygu addasiad arbennig o’r rhaglen ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda holl ysgolion rhanbarth y de Orllewin eisoes wedi buddsoddi yn y rhaglen yn ddiweddar. Byddwn hefyd yn cyflwyno seminar ar y rhaglen i athrawon yn y Gynhadledd Addysg Genedlaethol yng Nghaerdydd ddiwedd y mis”.

Wrth edrych ymlaen i ddathlu’r deg yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mae Peniarth ar hyn o bryd yn gweithio ar chwe deg a phump o gyhoeddiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Dywedodd Gwydion Wynne, “Gyda dyfodiad y cwricwlwm newydd i Gymru, mae hi’n gyfnod hynod gyffrous i ni fel cyhoeddwyr gyda nifer o gyfleoedd i ddatblygu adnoddau newydd a chyffrous, tra’i bod hi hefyd yn gyfnod heriol i ni wrth geisio mynd ati i ddiwallu’r galw cynyddol o fewn ein hysgylion am lyfrau ac adnoddau Cymraeg a dwyieithog. Edrychwn ymlaen i barhau i gydweithio gydag athrawon ac ysgolion ar draws Cymru dros y ddegawd nesaf!”

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Caerfyrddin a Llambed, “Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Canolfan Peniarth yn ystod y degawd diwethaf. Bu ei chyfraniad i gyhoeddiadau addysgol Cymraeg a dwyieithog yn un nodedig iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’r sylfeini a osododd yn golygu y gall edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol gan barhau i gyhoeddi adnoddau pwrpasol o safon uchel a, thrwy hynny, gyfrannu ymhellach at godi safonau yn ysgolion Cymru.”