Logo Hebog Peniarth

Ap newydd, arloesol, i asesu lefelau llythrennedd plant

Mae Canolfan Peniarth wedi datblygu a chyhoeddi Ap newydd arloesol i’r sector addysg yng Nghymru fydd yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion a sicrhau eu bod yn llwyddo ym maes dysgu profiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru 2022.

Mae’r ap Aur am Air, sy’n asesu lefelau llythrennedd plant o bob oed, cynradd ac uwchradd, yn cyflwyno disgyblion i gyfres o weithgareddau a gemau deniadol er mwyn datblygu eu sgiliau sillafu yn y Gymraeg. Mae’r ap yn cynnwys prawf diagnostic sy’n cael ei gyflwyno i ddisgyblion wrth iddynt ddechrau gweithio. Yn ddibynnol ar ganlyniadau’r prawf, mae’r Ap yn teilwra’r gweithgareddau a’r gemau er mwyn sichau bod eu cynnwys yn addas i lefel gallu a sgiliau’r disgybl.

Wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r Ap, bu’r Ganolfan yn cydweithio gydag arbenigwyr iaith ac athrawon ar draws Cymru, gan gynnwys arbenigwyr anghenion dysgu ychwnaegol yn benodol, er mwyn sicrhau fod yr ap yn gymorth i’r dysgwyr hynny sy’n cael trafferth adnabod a dysgu seiniau yn y Gymraeg.

Mae Nanna Ryder yn Uwch Ddarlithydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Trawsgwricwlaidd gyda’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a bu’n gweithio’n agos gyda Chanolfan Peniarth fel rhan o’r tim a fu’n awduro cynnwys yr Ap. Dywedodd Nanna Ryder, "Ar ôl misoedd o waith cynllunio ar gyfer yr Ap, rwy’n falch iawn o’u weld bellach ar gael i athrawon a disgyblion. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau deniadol i ddisgyblion o bob oed ac mae modd eu ddefnyddio er mwyn cefnogi gwaith sy’n cael ei wneud eisoes yn yr ystafell ddosbarth ac i hyrwyddo gweithio’n annibynnol".

Lansiwyd yr Ap yn ddiweddar mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Bro Teifi, yr Ysgol Gydol Oed, (3 – 18 oed) cyfrwng Cymraeg cyntaf i’w hadeiladau yng Nghymru. Bu Ysgol Bro Teifi yn gweithio’n agos â’r Ganolfan yn y broses dreialu’r cynnwys yr Ap gyda disgyblion o bob oed.

Dywedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth “Mae’r Ap hwn yn un o’r rhai cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, o ran darparu cyfle i ddisgyblion, o bob oed, i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd drwy gemau sydd wedi eu teilwra’n benodol i lefel eu gallu. Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cefnogaeth gan Cangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Ap ac o fod wedi cydweithio gydag arbenigwyr ar draws Cymru yn ei ddatblygu”.

Aur am Air yw’r wythfed Ap i Ganolfan Peniarth ei ddatblygu a’i gyhoeddi ar gyfer y sector addysg yng Nghymru yn ddiweddar, ac mae ar gael am ddim ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS.