CGC Logo - Peniarth

Cyfres ddarllen newydd, Dyna chi dric!

Dyma gyfres ddarllen newydd sbon yn y Gymraeg sy’n cynnwys 21 o lyfrau sydd wedi eu graddoli rhwng tri cham. Mae’r gyfres yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy’n dysgu darllen yn Gymraeg gyda’r nod o ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr.

Mae’r llyfrau yn seiliedig ar gamau rhaglen Tric a Chlic ac yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a llyfrau ag odl.

Gallwch hefyd ddod o hyd i dudalennau geirfa, gweithgareddau a fydd yn ysgogi trafodaeth a chyfieithiadau o bob stori yng nghefn y llyfrau.

Mae’r gyfres ar gael i’w phrynu ar ein siop ar-lein, siop.peniarth.cymru ac ar gael i’w dosbarthu o fis Mawrth 2024.

Prynwch y gyfres ar ein Siop