CGC Logo - Peniarth

Polisi Preifatrwydd

Ymwadiadau

Y mae hawlfraint pob dyluniad, testun a gwaith graffig a berthyn i'r wefan, ynghyd ag unrhyw ddetholiad neu drefniant ohonynt, a phob crynhoad ar sail meddalwedd, cod ffynhonnell weledol, meddalwedd (gan gynnwys applets) a phob deunydd arall ar wefan www.peniarth.cymru, yn eiddo i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant neu'r sawl a gyflenwodd y cynnwys a'r dechnoleg iddynt. CEDWIR POB HAWL.

Rhoir caniatâd i gopio'n electroneg ac argraffu ar gopi caled rannau o'r wefan hon i'r unig ddiben o osod archeb drwy peniarth.cymru neu ynteu ddefnyddio'r wefan hon fel adnodd siopa. Gwaherddir yn llwyr ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall ddeunyddiau'r wefan, gan gynnwys dyblygu i ddibenion heblaw'r rhai a nodir uchod, addasu, dosbarthu, neu ailgyhoeddi, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant / canolfanpeniarth.org

I'R GRADDAU LLAWNAF A GANIATEIR GAN Y GYFRAITH, Y MAE PRIFYSGOL CYMRU: Y DRINDOD DEWI SANT/peniarth.cymru YN DARPARU'R WEFAN HON A'I CHYNNWYS AR SAIL 'FEL Y MAE' AC NI WNA UNRHYW HONIADAU NA RHOI GWARANTAU O UNRHYW FATH (GWEDIR POB CYFRIFOLDEB YN BENODOL) YNG NGHYSWLLT Y WEFAN NEU EI DEUNYDDIAU GAN GYNNWYS, HEB GYFYNGIAD, WARANTAU MARCHNADAETH AC ADDASRWYDD AR GYFER DIBEN ARBENNIG. AT HYN, NID YW PRIFYSGOL CYMRU: Y DRINDOD DEWI SANT / CANOLFANPENIARTH.ORG YN HONNI NAC YN GWARANTU BOD YR WYBODAETH A GEIR DRWY'R WEFAN HON YN GYWIR, YN GYFLAWN NAC YN GYFREDOL. GALL GWYBODAETH AM BRISIAU AC ARGAELEDD NEWID YN DDIRYBUDD.

Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn darparu'r wybodaeth a geir ar peniarth.cymru gyda phob ewyllys da. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir. Pan fynegir barn, fel y ceir ar daflenni gwybodaeth ymlaen llaw a arddangosir fel ychwanegiadau ar canolfanpeniarth.org, nid barn Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant mohoni o anghenraid, ac ni ddylid ei dehongli fel y cyfryw.

Ni fydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am golli enillion neu elw nac am unrhyw golled o gwbl, pe digwyddai toriad yn y gwasanaeth a ddarperir gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant drwy peniarth.cymru.

Ac eithrio fel y datgenir yn benodol ar y wefan, i'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Y Drindod Dewi Sant / peniarth.cymru ei aelodau, ei gynrychiolwyr, ei Gyfarwyddwr na'i staff yn gyfrifol am unrhyw iawndal yn deillio o ddefnyddio neu yng nghyswllt defnyddio'r wefan. Y mae hwn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar gyfrifoldeb sy'n berthnasol i iawndal o unrhyw fath, heb gyfyngiad, boed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu niwed iddo, a hawliadau trydedd blaid.

Archebion

Bydd cwsmeriaid sy'n gosod archeb ar peniarth.cymru yn cael eu trosglwyddo i weinydd diogel lle caiff eu harchebion eu storio ar gyfer eu prosesu. Bydd peniarth.cymru yn pennu costau cludiant teg ar gyfer cwsmeriaid yn y DG ac yn unol â'r gost ar gyfer cwsmeriaid tramor. Codir yr union gost ar gyfer cludo tramor.

Y Ddeddf

Rheolir eich defnydd o wefan peniarth.cymru ynghyd ag unrhyw gynnyrch a brynir gennych ar y wefan gan gyfraith Cymru a Lloegr a bernir bod y defnydd hwn wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.