CGC Logo - Peniarth

Digwyddiadur

Gweld Y Digwyddiadur

Ydych chi’n ei gweld hi’n anodd gwybod pa adnoddau Cymraeg sydd ar gael i gyd-fynd gyda themâu neu ddiwrnodau penodol? Ydych chi’n treulio oriau’n chwilota am adnoddau pwrpasol o safon i’ch cynorthwyo?

Mae’r digwyddiadur yn adnodd defnyddiol i gynorthwyo ymarferwyr wrth iddynt gynllunio gwersi a themâu yn ystod y tymor. Ar y wefan dewch o hyd i adnoddau Peniarth sy’n cyd-fynd â channoedd o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal ag amrywiaeth o themâu posib.

Ai teithio yw eich thema y tymor hwn?

Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n Wythnos Diogelwch ar y Ffordd rhwng y 18fed – 25ain o Dachwedd, a bod gan Peniarth adnoddau sy’n trafod diogelwch ar y ffordd?

Wrth ddefnyddio’r wefan yma dewch o hyd i'r holl wybodaeth mewn modd hwylus a chyfleus gyda phob adnodd wedi ei gysylltu’n hwylus gyda’n siop ar-lein, neu gyda’r adnodd ar Hwb.

Gweld Y Digwyddiadur