Canolfan Peniarth yw un o'r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.
Yn rhan o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, rydym wedi cyhoeddi dros 300 o deitlau print yn lyfrau plant ac yn adnoddau addysg, yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, gwe a rhyngweithiol ac apiau ers ein sefydlu yn 2009.
Ein Cenhadaeth
Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau
Wedi’n sefydlu a’n lleoli o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sefydliad sydd â hanes hir a llwyddiannus fel un o brif ganolfannau hyfforddi athrawon, rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’r Brifysgol, sef i drawsnewid addysg ac i drawsnewid bywydau. Mae’r dysgwr yn ganolog i’n gwaith o ddydd i ddydd wrth gynllunio, datblygu, dylunio, a chyhoeddi.
Ein Gweledigaeth
Fel un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol yng Nghymru, ein nod yw i gynhyrchu a darparu adnoddau a gwasanaethau dwyieithog arloesol ar gyfer y sector addysg a fydd yn gallu ysbrydoli’r dysgwr i ffynnu ar bob cam, ac yn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chyffrous.
Yn ganolog i’n cynllun busnes, mae meithrin a datblygu perthynas a chysylltiadau o fewn amryw rwydweithiau o rhanddeiliaid ar draws Cymru a thu hwnt, er mwyn sicrhau fod ein cynnyrch a’n gwasanaethau’n diwallu anghenion, ac yn cyfrannu at helpu plant a phobl ifanc i fod yn;
- uchelgeisiol a galluog
- gyfranwyr mentrus a chreadigol
- ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach a hyderus.
Ail Frandio
Yn nhymor yr Hydref 2019, mae'r Ganolfan yn dathlu deng mlwyddiant ers ein sefydlu. Fel rhan o ddathliadau’n penblwydd ni, rydym wedi ail-frandio’r Ganolfan.

Beth yw’r logo newydd?
Hebog. Aderyn a welir mewn llun nodedig o fewn un o lawysgrifau Peniarth.
Pam, sut a ble?
Mae’r Ganolfan wedi ei henwi ar ôl llawysgrifau Peniarth, sef casgliad o lawysgrifau Cymreig canoloesol. Mae’r casgliad yn cynnwys rhai o’r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a gafodd ei ysgrifennu yma yn nhref Caerfyrddin lle rydym wedi ein lleoli.
Hefyd yn rhan o’r llawysgrifau, mae testunau cynnar o Gyfraith Hywel Dda, sef hen gyfreithiau Cymreig a gafodd eu diweddaru gan Hywel Dda yn dilyn cyfarfod o gyfreithwyr a chlerigwyr o bob rhan o Gymru yn nhref Hendy-gwyn ar Daf yma yn Sir Gâr. Un o lyfrau Cyfraith Hywel Dda yw Llawysgrif Peniarth 28, ac yn hwn, ceir llun o’r hebogydd yn dal yr hebog sydd wedi’n hysbrydoli.
A dyma ni, ganrifoedd lawer yn ddiweddarach, yn mabwysiadu’r hebog i’n cynrychioli ni fel Canolfan. Dyma aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth, ac rydym wedi ymroi’n llwyr i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau a fydd yn darparu gweledigaeth a rhyddid i’r dysgwr i ffynu ac i fuddugoliaethu ar hyd eu bywyd.