CGC Logo - Peniarth

Newyddion

01 Awst 2025

Cyhoeddi adnoddau newydd i gyd-fynd â llyfrau Stryd y Rhifau o gyfres boblogaidd Cymeriadau Difyr

Mae’n bleser eich gwahodd chi i stondin Siop Cwlwm ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth y 5ed o Awst am 10yb wrth i ni gyhoeddi adnoddau newydd i gyd-fynd â chyfres lyfrau Stryd y Rhifau.

28 Gor 2025

Llyfrau newydd prosiect Rhyngom

Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru ar brosiect Rhyngom, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cydweithiwyd gydag amryw o awduron gan gynnwys Casia Wiliam, Manon Steffan Ros, Llinos Dafydd, Aneirin Karadog a Catrin Evans Thomas wrth i ni addasu wyth llyfr i'r Gymraeg.

07 Tach 2024

Lansio ein gwefan newydd, Y Digwyddiadur!

Ydych chi’n ei gweld hi’n anodd gwybod pa adnoddau Cymraeg sydd ar gael i gyd-fynd gyda themâu neu ddiwrnodau penodol? Ydych chi’n treulio oriau’n chwilota am adnoddau pwrpasol o safon i’ch cynorthwyo?

26 Medi 2024

Lansio adnodd newydd Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia

Dyma adnodd addysgol arloesol newydd gan Peniarth sy’n galluogi ymarferwyr i ddysgu Sbaeneg Patagonia drwy gyfrwng y Gymraeg i'w dysgwyr.

04 Medi 2024

Haf 2024

Mae staff y Ganolfan wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn rhwydweithio ac yn mynychu nifer o ddigwyddiadau amrywiol dros Cymru gyfan.

05 Gor 2024

Cylchgrawn Cyw yn dod i derfyn

Yn dilyn cyfres o 13 cylchgrawn Cyw, mae’r rhifyn olaf wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024.

28 Meh 2024

Lansio gwefan newydd Mewn Tiwn mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru

Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar adnodd newydd sbon i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu sgiliau cerddoriaeth ar draws camau cynnydd 1-4.

14 Meh 2024

Cryfhau Cysylltiadau Rhyngwladol: Myfyrwyr Prifysgol Rio Grande yn Ymweld â PCYDDS Campws Caerfyrddin

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu grŵp o fyfyrwyr o Adran Addysg Prifysgol Rio Grande (URG). Trefnwyd yr ymweliad gan Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, sy’n gyn aelod o staff a chyn-fyfyriwr PCYDDS.

23 Ebr 2024

Peniarth yn creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant

Mae Canolfan Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithiog yng Nghymru sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ysgolion cynradd.

22 Ebr 2024

Cyhoeddi adnodd arloesol sy’n dathlu arwyr a hanes amlddiwylliannol Cymru

Mae Peniarth, cyhoeddwr llyfrau ac adnoddau addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi lansio poster ac adnodd arlein ‘Brethyn Cymru’, fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.