CGC Logo - Peniarth

Cryfhau Cysylltiadau Rhyngwladol: Myfyrwyr Prifysgol Rio Grande yn Ymweld â PCYDDS Campws Caerfyrddin

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu grŵp o fyfyrwyr o Adran Addysg Prifysgol Rio Grande (URG). Trefnwyd yr ymweliad gan Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, sy’n gyn aelod o staff a chyn-fyfyriwr PCYDDS.

Mae Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Rio Grande yn Ohio, UDA yn ymroddedig i hyrwyddo a chadw diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru yn yr Unol Daleithiau. Mae’n cynnig adnoddau i fyfyrwyr, y gyfadran a’r gymuned drwy gynnig cyrsiau, digwyddiadau diwylliannol a rhaglenni academaidd yn ymwneud ag astudiaethau Cymreig. Yn ogystal, mae’r ganolfan yn hwyluso cysylltiadau a theithiau cyfnewid rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau, gan gefnogi mentrau sy’n ehangu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes, diwylliant a materion cyfoes Cymru.

Dywedodd Kath Griffiths, rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS (Gogledd America ac Outward Mobility), Academi Fyd-Eang Cymru:

“Mae PCYDDS wedi’i chysylltu ag URG ers 2002, gan hwyluso teithiau cyfnewid myfyrwyr rhwng Cymru ac UDA. Mae rôl y Ganolfan Gymreig wrth hyrwyddo diwylliant Cymru yn y UDA yn arwyddocaol. Mae’n bleser gennym groesawu chwe myfyriwr dramor i astudio yma ym mis Medi am dymor.

Dywedodd Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig:

Cawsom ddiwrnod gwych ar Gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Llun gyda thîm Canolfan y Gymraeg! Roedd y gweithgareddau’n cynnwys dosbarth Cymraeg, trafodaeth am Ganolfan S4C Yr Egin gyda Llinos Jones, dysgu am adnoddau addysgol a gynhyrchir gan Beniarth gyda Catrin Evans-Thomas a chlywed am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, ymwelon ni â dwy ysgol, Ysgol y Dderwen ac Ysgol Maes y Gwendraeth, i arsylwi ar eu gweithrediadau a dysgu am bolisi a’r cwricwlwm. Cawsom amser gwych a hoffem eu diolch am y croeso cynnes! Yn ychwanegol, treulion ni amser gyda chyn-fyfyriwr PCYDDS a Phrifysgol Rio Grande a Choleg Cymuned Rio Grande, Lisa Jones, sydd erbyn hyn yn bennaeth yr adran ddrama ym Maes y Gwendraeth. Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â Dinbych y Pysgod. Bydd eu diwrnod olaf yn PCYDDS gyda’r staff Addysg.”

Dywedodd Kara Lewis, Darlithydd a Rheolwr Prosiect yng Nghanolfan Gwasanaethau Cymraeg PCYDDS:

“Mae’n bleser gweld y rhaglen a sefydlwyd yn ystod fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr Canolfan Madog yn parhau ac i groesawu ein hymwelwyr yr wythnos hon. Mae gan Brifysgol Rio Grande a’r ardal gyfagos arwyddocâd hanesyddol pwysig. Mae Canolfan Madog yn hanfodol o ran diogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymreig-Americanaidd gan feithrin cysylltiad cyfoes rhwng y ddau sefydliad. Mwynheais yn fawr y cyfle i gymharu llinellau amser y Gymraeg yn Ohio a Chymru, a arweiniodd at drafodaeth ddifyr ar ddeddfwriaeth a mentrau addysgol cyfredol yn ein hysgolion yng Nghymru yn ogystal â’n gwaith yn Rhagoriaith a Pheniarth yn darparu hyfforddiant ac adnoddau ledled Cymru. Roedd ein hymweliad â’r Ystafell Drochi yn gyfle i arddangos ein hadnoddau pwrpasol gan ddod â thechnoleg a dysgu iaith at ei gilydd ar gyfer ein myfyrwyr,”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
Ffôn: 07449 998476