CGC Logo - Peniarth

Cylchgrawn Cyw yn dod i derfyn

Yn dilyn cyfres o 13 cylchgrawn Cyw, mae’r rhifyn olaf wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024. Cyw a’i ffrindiau oedd canolbwynt yr holl gylchgronau, a 48 o dudalennau llawn dop o weithgareddau hwyliog yn addas i blant hyd at chwech oed. Mae’r cylchgrawn yn cynnwys ardal greu, stori, gemau a gweithgareddau amrywiol i ddatblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd plant. Law yn llaw â’r cylchgrawn, mae gwefan arbennig yn cynnig cyfieithiad o’r holl gynnwys, gan ddarparu cyfle i glywed y cynnwys yn cael ei ddarllen yn y Gymraeg. - Cylchgrawn Cyw

Mae wedi bod yn braf cydweithio gyda S4C ar y gyfres unigryw hon, ac rydym wedi bod wrth ein boddau yn ymgysylltu â phlant a theuluoedd o bob cwr o’r byd ar yr adnodd yma.

Gallwch brynu gopiau o’r holl rifynnau ar ein gwefan – ewch i gael cipolwg! Mae gyda ni fargen ar ambell gopi hefyd – 3 am £5 - Siop

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth gyda’r cylchgrawn yma, gobeithio eich bod chi gyd wedi mwynhau darllen a dysgu gyda Cyw a’i ffrindiau.