CGC Logo - Peniarth

Lansio gwefan newydd Mewn Tiwn mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru

Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar adnodd newydd sbon i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu sgiliau cerddoriaeth ar draws camau cynnydd 1-4. Mae’r wefan yn cynnig syniadau ac adnoddau er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i addysgu Cerddoriaeth yn effeithiol ac yn hyderus i ddysgwyr 3-16 oed yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru.

Cewch fynediad at sbardunau, clipiau sain a fideos, ynghyd ag adnoddau defnyddiol fydd yn cynnwys amrywiaeth o syniadau am weithgareddau i’w gwneud yn y dosbarth ac yn yr awyr agored. Mae’r adnoddau ar ffurf cyflwyniadau a dogfennau ‘Word’ fel y gellir eu haddasu at ddibenion gwahaniaethu. Ceir posteri hefyd ar ffurf ‘pdf’ y gellir eu hargraffu os dymunir.

Mae’r wefan wedi ei rhannu fesul Cam Cynnydd ac o fewn pob Cam Cynnydd mae adnoddau wedi eu teilwra o amgylch y datganiadau canlynol: Archwilio, Ymateb a Myfyrio, a Chreu.

Mae’r adnodd ar gael am ddim drwy Hwb - https://hwb.gov.wales/repository/resource/728e78c6-47da-4b63-9a4f-b5129c289fe5

Ewch i archwilio a chreu!