Mae staff y Ganolfan wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn rhwydweithio ac yn mynychu nifer o ddigwyddiadau amrywiol dros Cymru gyfan.
Fe ddechreuodd prysurdeb yr haf yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ddiwedd Mai. Cafwyd wythnos llawn dop gyda nifer o weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos gan gynnwys Llyfrau Sychu’n Sych, Dysgu gyda Cyw a thaflenni lliwio amrywiol. Roedden ni’n ffodus iawn i gael cwmni cyflwynwyr Cyw bob bore i ddarllen stori allan o gylchgrawn Cyw a sesiwn ganu, roedd y plant wrth eu boddau. Braf oedd cael cwmni Mr Urdd ei hun ar ddiwedd yr wythnos i goroni wythnos arbennig.
I lawr i Abertawe aethon ni nesa ddechrau Mehefin i Ŵyl Tawe. Dyma’r tro cyntaf i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a ni fynychu’r digwyddiad. Roedd hi’n ddiwrnod arbennig ac yn gyfle gwych i sgwrsio gyda nifer o gwsmeriaid newydd a chael clonc gyda chwsmeriaid ffyddlon. Diolch i Fenter Iaith Abertawe am drefnu digwyddiad arbennig, roedd hi’n hyfryd bod yn rhan o’r bwrlwm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Lawr i ardal Sir Benfro aethon ni ddiwedd Mehefin ac i Wersyll yr Urdd, Pentre Ifan i fod yn rhan o ddathliadau Gŵyl Hirddydd Haf. Dan gysgod Carn Ingli, cynhaliwyd gweithdai ar thema ‘ecoieithyddiaeth’ yn yr awyr agored gydag 8 grŵp o ddisgyblion blwyddyn 5 Sir Benfro. Braf oedd clywed syniadau'r dysgwyr ifanc, wrth i ni drafod tafodiaith hyfryd Gwlad y Wês Wês, a siarad am bwysigrwydd gofalu amdani hi a'r iaith Gymraeg yn genedlaethol. Bu'n sesiwn ymarferol hefyd wrth i'r grwpiau greu anifeiliaid fel symbolau o'r iaith Gymraeg. Fel y barcud coch a fu unwaith mor brin, trafodwyd sut y gallwn ni gydweithio i adfer creaduriaid a iaith ein cynefin.
Yn ôl i ardal Caerfyrddin ac i Ŵyl Canol Dre aeth y tîm ddechrau Gorffennaf. Mae’r ŵyl yma yn ddigwyddiad cyson yng nghalendr y Ganolfan ac i'r Brifysgol wrth i ni fynychu’n flynyddol. Yn ystod y diwrnod cynhalion ni weithdy ‘Dyna chi Dric’ i rieni. Roedd y gweithdy yn gyfle i ddangos y gyfres ddarllen newydd a dangos sut y gall rhieni gefnogi sgiliau darllen yn y cartref gyda’r gweithgareddau ar-lein sy’n cyd-fynd gyda’r llyfrau a’r llyfrau digidol gyda sain. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y gyfres Dyna chi Dric.
Ddechrau Awst roedd y tîm i lawr ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Roedd hi’n wythnos arbennig yn trafod ein darpariaeth a sgwrsio gyda chwsmeriaid ac athrawon, gweld plant yn mwynhau ein gweithgareddau dyddiol ac roedd hi’n hyfryd cael cyflwynwyr Cyw a chriw Stwnsh yn ymuno gyda ni’n ddyddiol i gynnal sesiwn stori a chân a gemau.
Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth yn ystod y digwyddiadau yma, edrychwn ymlaen at haf 2025!
Mae’r prysurdeb yn parhau ar gyfer tymor yr Hydref wrth i ni lansio ein pecyn Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia yn swyddogol ddiwedd fis Medi. Gallwch brynu y pecyn ar lein yma. Beth am fynychu ein noson agored i glywed mwy am yr adnodd? Cofrestrwch yma!
Rydyn ni’n falch iawn i groesawu criw newydd o athrawon ar y Cwrs Sabothol i Athrawon, dymuniadau gorau iddyn nhw i gyd! Byddwn ni hefyd yn cynnal cwrs lefel Mynediad i Gynorthwywyr Dosbarth yn ardal Aberystwyth, sesiynau ymwybyddiaeth iaith amrywiol, cwrs codi hyder gyda’r Gymraeg a sesiwn HMS ar ddatblygu sgiliau darllen. Llenwch y ffurflen hon i fynegi diddordeb ac i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.