Mae’n bleser eich gwahodd chi i stondin Siop Cwlwm ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth y 5ed o Awst am 10yb wrth i ni gyhoeddi adnoddau newydd i gyd-fynd â chyfres lyfrau Stryd y Rhifau.
Cyhoeddwyd Stryd y Rhifau gan Peniarth yn 2018 fel cyfres o 21 llyfr stori yn canolbwyntio ar gymeriadau rhif, yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Mae’r llyfrau yn addas i ddysgwyr ar Gam Cynnydd 1, gyda’r llyfrau yn canolbwyntio ar rifau unigol o 0-10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau.
Mae'r llyfrau yn cynnig cyfleoedd i fathemategwyr mentrus fagu hyder wrth iddynt ddefnyddio cysyniadau rhifedd amrywiol mewn ymateb i broblemau yn y byd go iawn.
Trwy nawdd Adnodd a Llywodraeth Cymru mae Peniarth wedi datblygu'r gyfres ymhellach trwy greu adnoddau atodol sy'n cynnwys gweithgareddau a rapiau unigryw gan y Prifardd Aneirin Karadog i gyflwyno rhifau 0-10 mewn modd hwyliog, cyffrous a gweledol i'r dysgwyr.
Dewch i fwynhau sgwrs gan awdures y gyfres Manon Steffan Ros, cyfansoddwr y rapiau Aneirin Karadog a Catrin Evans-Thomas, rheolwr prosiect a chyd-awdures y gyfres wreiddiol. Bydd cyfle i wylio'r rapiau yn fyw a gweld enghreifftiau o’r gweithgareddau newydd fydd ar gael am ddim ar Hwb i ymarferwyr ddefnyddio o fis Medi ymlaen.
Nododd Catrin Evans-Thomas, rheolwr y prosiect, “Dyn ni'n falch iawn i lansio'r gweithgareddau newydd sbon yma i gyd-fynd â chyfres sydd wedi hen ennill ei phlwy yn ysgolion Cymru. Datblygwyd y syniad yn dilyn adborth wrth athrawon yn gofyn am fwy o adnoddau rhifedd i hwyluso addysgu'r cwricwlwm newydd, felly mae'n gyffrous ein bod ni wedi gallu cydweithio ag athrawon rhifedd arbenigol yn ogystal â dau o fawrion llên plant Cymru i'w creu. ”
Yn dilyn y sgwrs bydd cyfle i archebu llyfrau unigol Stryd y Rhifau wedi’u harwyddo gan yr awdures Manon Steffan Ros ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am 11yb.
Am fwy o wybodaeth am yr adnoddau, croeso i chi gysylltu gyda [email protected]