Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru ar brosiect Rhyngom, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cydweithiwyd gydag amryw o awduron gan gynnwys Casia Wiliam, Manon Steffan Ros, Llinos Dafydd, Aneirin Karadog a Catrin Evans Thomas wrth i ni addasu wyth llyfr i'r Gymraeg.
Mae’r llyfrau yn cynnig cyfleoedd am drafodaeth ac yn cyflwyno straeon mewn modd ysgafn sy’n torri tir newydd, yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynrychiolaeth ehangach ar silffoedd llyfrau Cymru.
Mae’r wyth llyfr ar gael i'w prynu ar ein siop ar-lein yma
- Diwali Binny
- Llygaid sy’n Cusanu yn y Corneli
- Y Glas Prydferthaf
- Beth Ddigwyddodd i TI?
- Balch ohona i
- Rhyw Fath o Sbarc
- Y Fflamingo Du
- Fi, Fy Nhad a Phen draw’r Enfys
Bydd casgliad o adnoddau addysgol i gyd-fynd â’r 48 llyfr sy’n rhan o brosiect Rhyngom ar gael ar Hwb fis Medi.
Darllenwch mwy am y prosiect yma