CGC Logo - Peniarth

Myfyrwyr o Batagonia yn ymweld â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Roedd yn bleser gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu criw o fyfyrwyr ac athrawes o Batagonia i gampws Caerfyrddin ar y 4ydd o Fehefin. Trefnwyd yr ymweliad gan Ariela Gibbon, athrawes yn Ysgol Gerdd y Gaiman a chyn-bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman a Llinos Howells.

Mae Coleg Camwy yn ysgol 11-17 oed ac wedi’i lleoli yn y Gaiman, talaith Chubut, Patagonia. Dechreuodd y myfyrwyr ar eu taith Gymraeg yn Ysgol Gymraeg y Gaiman yn 4 oed, ac mae Coleg Camwy yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu’r iaith Gymraeg, datblygu eu hyder i'w defnyddio a hyrwyddo diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru.

Fe ddaeth breuddwyd Ian, Emilia, Morena a Carolina yn fyw fis diwethaf wrth iddynt ddod i Gymru am y tro cyntaf. Cyrhaeddodd y criw ar yr 21ain o Fai ac maent wedi bod yn brysur yn ymweld â’r Eisteddfod, Glan-llyn, Aberystwyth a nifer o leoliadau arall, cyn cyrraedd Caerfyrddin.

Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia’n ddwfn ac yn hanesyddol gan ddechrau nôl yn 1865 pan hwyliodd long y Mimosa i Dde America ac i dalaith Chubut yn benodol. Erbyn heddiw, mae’r cysylltiadau yr un mor gryf ag erioed. Mae nifer o staff y Ganolfan wedi manteisio ar y cyfle i weithio ym Mhatagonia yn y gorffennol boed fel athrawon neu fel Swyddogion Datblygu’r Gymraeg.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth wrth ysgolion y Wladfa wrth i ni greu ein hadnodd newydd ‘Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia.’ Mae’r unedau’n cynnwys clipiau o ddysgwyr Y Wladfa yn siarad Sbaeneg ynghyd â chyfarwyddiadau o ran sut i ddysgu un o ddawnsfeydd traddodiadol y wlad. Yn ystod eu hymweliad cafodd y criw gyfle i ymweld â’r ystafell drochi. Dangoswyd y math o weithgareddau rydym yn eu gwneud yn ystod ymweliadau ysgolion a darlithoedd gyda myfyrwyr, gan rannu fideos sy’n cyd-fynd gyda’r adnodd newydd ‘Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia’.

Yn y prynhawn aeth y grŵp ati i wneud perfformiad bach i staff a myfyrwyr y campws yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Perfformiwyd dwy ddawns, La Chacarera a’r Samba, a dangoswyd eu sgiliau clocsio newydd gyda dawns i gyd-fynd gyda’r gân ‘Patagonia’ a enillodd ‘Cân i Gymru’ yn 2023. Cafodd pawb wledd i'r llygaid.

Dyma beth oedd gan Ariela Gibbon i ddweud;

“Dw i mor hapus bod pobl ifanc o Batagonia sydd wedi dysgu Cymraeg ers yn blant bach ac sydd wedi cadw’r traddodiadau Cymreig yno yn Ne America wedi gallu dod yma a chael profiadau arbennig yng Nghymru. Dan ni’n hapus dros ben ac mae’r bobl ifanc isho dod nôl yn fuan! Diolch am y croeso cynnes yng Nghaerfyrddin a diolch i bawb sy wedi’n helpu ni ar y daith yma.”

Hoffai’r Ganolfan a’r Brifysgol ddiolch o galon i'r criw am roi o’u hamser i ddod i'r campws. Roedd yn hyfryd cael cyfle i sgwrsio, trafod adnoddau a datblygiadau’r cwricwlwm a’r iaith Gymraeg. Pob dymuniad da i'r criw wrth iddynt fynd i brifysgolion yn fuan ac edrychwn ymlaen at groesawu grŵp arall o’r Wladfa’r flwyddyn nesaf.