Mae Peniarth wedi datblygu a chyhoeddi Ap newydd arloesol i’r sector addysg yng Nghymru fydd yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu sgiliau llythrennedd disgyblion a sicrhau eu bod yn llwyddo ym maes dysgu profiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru 2022.
Mae’r ap Aur am Air, sy’n asesu lefelau llythrennedd plant o bob oed, cynradd ac uwchradd, yn cyflwyno disgyblion i gyfres o weithgareddau a gemau deniadol er mwyn datblygu eu sgiliau sillafu yn y Gymraeg. Mae’r ap yn cynnwys prawf diagnostic sy’n cael ei gyflwyno i ddisgyblion wrth iddynt ddechrau gweithio. Yn ddibynnol ar ganlyniadau’r prawf, mae’r Ap yn teilwra’r gweithgareddau a’r gemau er mwyn sichau bod eu cynnwys yn addas i lefel gallu a sgiliau’r disgybl.
Wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r Ap, bu’r Ganolfan yn cydweithio gydag arbenigwyr iaith ac athrawon ar draws Cymru, gan gynnwys arbenigwyr anghenion dysgu ychwanegol yn benodol, er mwyn sicrhau fod yr ap yn gymorth i’r dysgwyr hynny sy’n cael trafferth adnabod a dysgu seiniau yn y Gymraeg.
Gweithiodd Nanna Ryder, sy'n Uwch Ddarlithydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Trawsgwricwlaidd gyda’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn agos gyda Peniarth fel rhan o’r tim a fu’n awduro cynnwys yr Ap. Dywedodd Nanna, "Ar ôl misoedd o waith cynllunio ar gyfer yr Ap, rwy’n falch iawn o’u weld bellach ar gael i athrawon a disgyblion. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau deniadol i ddisgyblion o bob oed ac mae modd eu ddefnyddio er mwyn cefnogi gwaith sy’n cael ei wneud eisoes yn yr ystafell ddosbarth ac i hyrwyddo gweithio’n annibynnol".
Lansiwyd yr Ap mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Bro Teifi, yr Ysgol Gydol Oes, (3 – 18 oed) cyfrwng Cymraeg cyntaf i’w hadeiladau yng Nghymru. Gweithiodd Ysgol Bro Teifi yn agos â’r Ganolfan yn y broses o dreialu cynnwys yr Ap gyda disgyblion o bob oed.
Dywedodd Gwydion Wynne, “Mae’r Ap hwn yn un o’r rhai cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, o ran darparu cyfle i ddisgyblion, o bob oed, i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd drwy gemau sydd wedi eu teilwra’n benodol i lefel eu gallu. Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cefnogaeth gan Cangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Ap ac o fod wedi cydweithio gydag arbenigwyr ar draws Cymru yn ei ddatblygu”.
Mae Peniarth wedi cyhoeddi ap Aur am Air sydd ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, ac mae ar gael am ddim ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS.