CGC Logo - Peniarth

Tric a Chlic yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 mlwydd oed!

Mae’r rhaglen ffoneg synthetig, Tric a Chlic yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed. Ers sefydlu’r rhaglen wreiddiol mae bellach yn gynllun sy’n cael ei ddefnyddio’n genedlaethol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, fel ei gilydd. Gwelwyd ysgolion ar hyd a lled Cymru, ymhob rhanbarth, yn buddsoddi ac yn elwa’n sylweddol o’r rhaglen.

Er mwyn nodi’r achlysur pwysig hwn, a hynny ar Ddiwrnod y Llyfr, penderfynwyd mynd ati i lansio gwefan newydd Tric a Chlic. Dyma fydd cartref newydd holl gynnwys Tric a Chlic! Rhoddwyd cyfle i ysgolion a rhieni dreialu’r wefan gan ddarparu adborth. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud eisoes, mae eich sylwadau a’ch adborth yn hynod o werthfawr i ni wrth i ni gynllunio a datblygu’r rhaglen ymhellach. Os oes gennych chi syniadau y carech eu rhannu yna danfonwch nhw at [email protected].

Bum yn ddigon ffodus o gael dathlu’r achlysur gydag Ysgol Gymraeg Lon Las, Abertawe ac fe gawsom fore hyfryd gyda rhai o ddisgyblion dosbarth Derbyn yr ysgol sy’n defnyddio’r rhaglen yn ddyddiol. Diolch yn fawr am y croeso cynnes!

Fe fyddwn ni dros y misoedd nesaf yn ychwanegu’n gyson i’r wefan a hynny o dan eich arweiniad chi ddefnyddwyr! Ond am y tro ac er mwyn parhau â’r dathlu rydym wedi ychwanegu adnoddau newydd i’r siop sef,

Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai yn cael anawsterau wrth osod neu redeg ein apiau Tric a Chlic ar eu dyfeisiau symudol a thabledi. Fel mesur dros dro, wrth i ni geisio darganfod datrysiad parhaol, rydym wedi sicrhau bod y ddau ap ar gael yma, ar y wefan, fel y gallwch barhau i’w defnyddio a’u mwynhau!

Ewch at wefan Tric a Chlic!