CGC Logo - Peniarth

Myfyriwr PCYDDS yn darlunio llyfr stori newydd i Peniarth

Mae Peniarth, sef cyhoeddwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi llyfr stori newydd, Nature’s Nasties / Natur Ych a fi! gan yr awdures adnabyddus Carol Barratt, ac mae wedi ei ddarlunio gan Ocean Hughes oedd yn fyfyrwraig yn y Drindod Dewi Sant.

Roedd Ocean Hughes yn astudio BA Illustration yng Ngholeg Celf Abertawe o fewn y Brifysgol, ac roedd hi’n arbenigo ar ddarlunio llyfrau plant. Ar ôl creu argraff dda ar staff yn ystod cyfnod ar brofiad gwaith yn Peniarth, comisiynwyd Ocean i ddarlunio llyfr stori newydd.

Wedi ei awduro gan Carol Barratt, a’i gyfieithu i’r Gymraeg gan yr awdur a’r bardd Yr Athro Mererid Hopwood, cyn-ddarlithydd y Brifysgol, mae Natur Ych a fi, ac yn Saesneg, Nature’s Nasties, yn cynnwys deg stori ffeithiol i blant ifanc. Wedi eu lleoli ym Mhenryn Gŵyr, mae’r straeon yn cynnwys llawer o gymeriadau bywyd gwyllt, hwyliog a fydd yn sicr o ddal yn nychymyg plant.

Dywedodd Mr Gwydion Wynne, “Natur Ych a Fi a Nature’s Nasties yw’r ail lyfr y mae Peniarth wedi ei gyhoeddi gan yr awdur Carol Barratt. Cyflwynodd Ocean ei hun i ni ar ôl i ni ei chyfarfod gyda myfyrwyr eraill yn ystod Wythnos Ddylunio / Design Week y Coleg Celf. Roedd ei harddull yn amlwg yn gweddu’n berffaith ar gyfer straeon llyfr Carol. Roeddem yn hynod falch gyda’i syniadau gwreiddiol ar gyfer y llyfr a’r darluniau cychwynnol – roedd safon ei gwaith hi dipyn yn uwch na’r disgwyl. Wedi i ni drafod y syniadau gyda Carol, penderfynwyd rhoi’r comisiwn i Ocean. Mae ansawdd ei gwaith ar gyfer y llyfr yn wirioneddol wych. Mae hi wedi llwyddo i ddod â’r straeon a’r cymeriadau hwyliog yn fyw. Bob tro y byddwch yn darllen y llyfr, fe welwch chi rywbeth newydd yn y darluniau chwareus a manwl sydd ar bob tudalen. Rydym yn hynod gyffrous i weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi”.

Roedd y fyfyrwraig Ocean Hughes yn ymwybodol ers yn ifanc iawn ei bod hi’n mynd i fod yn arlunydd. Dywedodd, “Dw i’n cofio treulio oriau yn edrych ar ddarluniau mewn llyfrau pan yn blentyn, yn ceisio meddwl sut byddai’n teimlo i weld lluniau fy hun mewn print rhyw ddiwrnod. Wrth edrych ar y llyfr Natur ych a fi, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud y gwaith darlunio iddo”.

Dywedodd Derek Bainton, cyn-bennaeth Ysgol Graffeg a’r Celfyddydau Digidol yn y Drindod Dewi Sant, lle roedd Ocean yn astudio’i gradd, “Mae gan y rhaglen BA Illustration yng Ngholeg Celf Abertawe gysylltiadau cryf â Peniarth, ac mae'r myfyrwyr a'r graddedigion wedi gweithio ar sawl comisiwn yn y Gymraeg a'r Saesneg dros y blynyddoedd. Mae’r berthynas yn un eithriadol o werthfawr i'r myfyrwyr a'r tîm academaidd. Mae darluniau Ocean Hughes ar gyfer Natur ych a fi yn rhyfeddol a gwreiddiol ac yn gweddu’n berffaith ar gyfer arddull ysgrifennu ffeithiol gyfoethog Carol Barratt. Mae ymroddiad Ocean i'r llyfr hwn ynghyd â'i hastudiaethau wedi bod yn eithriadol, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i Ocean, Carol a’r llyfr. "

Lansiwyd Natur Ych a fi yng Ngholeg Celf Abertawe yn Rhagfyr 2019.