Ap UWTSD Alumni
Mae Canolfan Peniarth, sy’n cynnal y rhaglen hon ar ran y UWTSD, yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.
Nid yw’r UWTSD na Chanolfan Peniarth yn casglu unrhyw ddata defnyddwyr drwy’r rhaglen hon heblaw’r hyn a ddarperir ar ffurf data dadansoddi drwy’r App Store y caiff yr ap ei lawrlwytho ohoni. Mae’r data hwnnw’n cynnwys, ymysg pethau eraill, sawl gwaith y caiff ap ei lawrlwytho, y gwledydd y tarddodd y lawrlwythiadau ohonynt, y dyfeisiau a ddefnyddiwyd i lawrlwytho’r ap a meddalwedd y System Weithredu y mae’r ddyfais yn ei rhedeg. Mae’r data hwn yn breifat i aelodau staff y UWTSD a Chanolfan Peniarth sy’n ymwneud â chreu, cynnal a marchnata’r ap yn unig, a chaiff ei ddefnyddio o wneud gwelliannau i’r ap ac i ddylanwadu ar ddatblygu rhagor o apiau neu apiau yn y dyfodol.
O dro i dro, gall fod yn ofynnol i’r UWTSD neu Ganolfan Peniarth ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn. Bydd unrhyw ddiweddariad ar y polisi yn cael ei grybwyll yn nisgrifiad yr ap yn yr App Store (yn achos iOS) ac yn Google Play Store (yn achos Android). Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen y fersiwn diweddaraf.