CGC Logo - Peniarth

Betsan a Roco yn y Dref

Mae Canolfan Peniarth yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd dan ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

Nid yw Canolfan Peniarth yn casglu unrhyw ddata defnyddwyr ac eithrio'r data hynny a ddefnyddir gan Google fel arfer ar gyfer dadfygio a dadansoddi demograffig. Mae'r data hyn yn breifat i'r aelodau staff hynny o Ganolfan Peniarth sy'n ymwneud â chreu, cynnal a marchnata'r ap, ac fe'u defnyddir i wneud gwelliannau i'r ap ac i ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol.

Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth rannu data â Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyllido'r gwaith o ddatblygu'r ap yn rhannol, at ddibenion monitro'r defnydd ohono, ac unwaith eto gallai hyn ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol. Bydd unrhyw ddata a rennir â Llywodraeth Cymru bob amser yn gyfanredol ac yn ddi-enw.

O dro i dro, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth ddiweddaru'r Polisi Preifatrwydd hwn. Sonnir am unrhyw ddiweddariadau i'r polisi ar ddisgrifiad yr ap yn yr App Store (ar gyfer iOS) a Google Play Store (ar gyfer Android). Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen y fersiwn diweddaraf.