Caneuon Cŵl
Mae Canolfan Peniarth yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd dan ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.
Nid yw Canolfan Peniarth yn casglu unrhyw ddata defnyddwyr ac eithrio'r data hynny a ddefnyddir gan Google fel arfer ar gyfer dadfygio a dadansoddi demograffig. Mae'r data hyn yn breifat i'r aelodau staff hynny o Ganolfan Peniarth sy'n ymwneud â chreu, cynnal a marchnata'r ap, ac fe'u defnyddir i wneud gwelliannau i'r ap ac i ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol.
Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth rannu data â Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyllido'r gwaith o ddatblygu'r ap yn rhannol, at ddibenion monitro'r defnydd ohono, ac unwaith eto gallai hyn ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol. Bydd unrhyw ddata a rennir â Llywodraeth Cymru bob amser yn gyfanredol ac yn ddi-enw.
Mae'r caniatâd <strong>Mynediad Rhwydwaith</strong> yn ofynnol er mwyn i chi, y defnyddiwr, lawrlwytho'r caneuon sy'n gysylltiedig â'r ap. Bydd ein gweinydd yn cadw cofnod o gyfeiriad IP eich dyfais ar yr adeg y byddwch yn lawrlwytho cân benodol. Os bydd unrhyw gamau lawrlwytho'n arwain at wall, cofnodir hyn yn log gwallau ein gweinydd, er <em>ni</em> fydd hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth i'ch adnabod; y gwall ei hun yn unig a gofnodir. Mae'r caniatâd yn ofynnol hefyd er mwyn gwirio a ydych wedi'ch cysylltu â Wi-Fi neu â data symudol ac, yn achos yr olaf, er mwyn gofyn i chi a ydych yn dymuno parhau i lawrlwytho cân benodol, oherwydd gallai hyn beri costau, yn ddibynnol ar gynllun eich dyfais symudol.
O dro i dro, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth ddiweddaru'r Polisi Preifatrwydd hwn. Sonnir am unrhyw ddiweddariadau i'r polisi ar ddisgrifiad yr ap yn yr App Store (ar gyfer iOS) a Google Play Store (ar gyfer Android). Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen y fersiwn diweddaraf.