Google Analytics
At ddibenion gweinyddu system ac er mwyn creu adroddiadau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, system weithredu a’r math o borwr gwe a ddefnyddir. Mae hwn yn ddata ystadegol am gamau gweithredu a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw'n adnabod unrhyw unigolyn.
Yr unig gwcis trydydd parti sy’n weithredol ar unrhyw adnodd yw’r rheiny ar gyfer Google Analytics. Mae Google Analytics yn offeryn dadansoddi sy'n cynorthwyo datblygwyr a pherchnogwyr y wefan i ddeall sut mae ymwelwyr yn ymgysylltu â'u gwefan. Gall perchnogion gwefan weld amrywiaeth o adroddiadau ar sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â'u gwefan er mwyn iddynt allu gwella’r wefan.
Fel nifer o wasanaethau, mae Google Analytics yn defnyddio cwcis cyswllt cyntaf i olrhain rhyngweithio ymwelwyr, fel yn achos ein gwefan ni, lle maent yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Yna, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella ein safle. Rydym yn darparu trosolwg o ganlyniadau’r adroddiadau hyn i Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo i ddisg galed eich cyfrifiadur. Defnyddir y cwcis hyn i storio gwybodaeth, megis yr amser y digwyddodd yr ymweliad, ac a yw'r ymwelydd wedi bod i'r safle o’r blaen, a pha safle gyfeiriodd yr ymwelydd at y dudalen we.
Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth yn ddienw. Mae'n adrodd ar dueddiadau gwefan heb adnabod ymwelwyr unigol. Gallwch ddewis optio allan o Google Analytics, heb effeithio ar y ffordd yr ydych yn ymweld â’r safle - am ragor o wybodaeth am ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws yr holl wefannau rydych yn eu defnyddio, ewch i’r <a href='http://tools.google.com/dlpage...' rel='noreferer noopener'>dudalen Google yma</a>.
Yn ogystal, er mwyn eich hysbysu chi, y defnyddiwr, o’n defnydd o Google Analytics, rydym hefyd yn defnyddio cwci cyswllt cyntaf sengl (un a grëwyd ac a ddefnyddir yn unig gan Canolfan Peniarth) i gadw cofnod p'un a ydych wedi gweld a derbyn ein polisi cwci. Mae'r cwci yn parhau drwy gydol y sesiwn ar y porwr, (sy'n golygu, os ydych yn cau eich porwr, bydd y neges yn ail-ymddangos y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r adnoddau), ac yn cyfateb yn fras i ateb ydy neu nacydy i'r cwestiwn ”ydy'r defnyddiwr wedi derbyn neu gwrthod ein neges cwci?”.