CGC Logo - Peniarth

Caneuon Cŵl

Llyfrau ac apiau sy'n cynnwys 60 o ganeuon a rhigymau hwyliog, gwreiddiol i blant 3 - 7 oed gan Caryl Parry Jones a Steffan Rhys Williams. Mae'r caneuon wedi eu cyfansoddi yn arbennig er mwyn gallu cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd (mewnol ac allanol) o fewn dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Manyleb:

Cyfansoddi 60 o ganeuon gwreiddiol yn y Gymraeg ar wahanol ardaloedd o fewn y Cyfnod Sylfaen, a'u recordio i lefel broffesiynol. Dylunio a chyhoeddi llyfr cerddoriaeth i gynnwys geiriau a sgôr pob un o'r caneuon, ynghyd a datblygu ap ar fformat carioci ar gyfer yr adnodd.

Ein Ymagwedd:

Comisiynwyd y cerddorion proffeisynol Caryl Parry Jones a Steffan Rhys Williams i gyd-weithio gyda ni i ysgrifennu geiriau'r ganeuon ac i gyfansoddi'r gerddoriaeth. Bu i'r tîm dylunio mewnol ym Mheniarth gynllunio gwaith celf lliwgar, bywiog a syml er gyfer y llyfrau a'r apiau er mwyn sicrhau mwynhad y plant wrth ddefnyddio'r adnodd.