CGC Logo - Peniarth

Cymeriadau Difyr

Dyma ddwy gyfres o lyfrau stori, Stryd y Rhifau, a Glud y Geiriau, i blant 3 - 7 oed. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif neu atalnod, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rhifolion a marciau atalnodi penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

Mae'r llyfrau'n hyrwyddo chwilfrydedd ymhlith y plant ac yn ysgogi eu hawydd i ddysgu mwy am y cymeriadau newydd, cyfoes ac apelgar.

Manyleb:

Cynhyrchu deunyddiau i gefnogi addysgu a dysgu plant y Cyfnod Sylfaen gan ganolbwyntio ar hybu eu hadnabyddiaeth o farciau atalnodi a rhifolion penodol trwy ddefnyddio dulliau hwyliog a chyffrous.

  1. Stryd y Rhifau: Set o 21 llyfr yn cyflwyno cymeriad rhif o 0 1 20 mewn ffurf stori
  2. Glud y Geiriau: Set o 21 llyfr yn cyflwyno elfennau ieithyddol megis marciau atalnod ac ati.

Ein Ymagwedd:

Defnyddiwyd awduron profiadol megis Manon Steffan Ros, ynghyd ag awduron sydd â chefndir cryf mewn addysg er mwyn creu straeon difyr a doniol am rhifolion a marciau atalnodi a fydd yn aros yng nghof y plant ac yn bachu eu dychymyg. Comisynwyd yr artist Elena d'Cruze-Reynolds i weithio ar ddarluniau i'r llyfrau er mwyn dod â'r cymeriadau ar straeon yn fyw.