CGC Logo - Peniarth

Wyt ti'n gwybod?

Dyma ddwy gyfres o lyfrau cyfair i gyflwyno plant i ystod o ffeithiau diddorol er mwyn ysgogi eu chwilfrydedd ynghylch y byd sydd o'u cwmpas yn ogystal ag hyrwyddo eu hawydd i chwilota am bob math o wybodaeth.

Manyleb:

Awduro a chyhoeddi 30 o lyfrau A5 lliw llawn gyda chyfuniad o ffotograffau a lluniau bywiog a thrawiadol ynghyd â thestun priodol er mwyn cyflwyno ffeithiau amrwyiol a diddorol i blant rhwng 3 a 7 oed.

Ein Ymagwedd:

Gan gydweithio gyda awudron profiadol sydd a chefndir cryf mewn addysg, Bethan Clement a Non ap Emlyn, cyhoeddwyd 15 llyfr ar gyfer plant 3 - 5 oed yn canolbwyntio ar ffeithiau diddorol ac amrywiol am anifeiliaid, trychfilod, lliwiau, deinosoriaid ayb. Ar gyfer plant 5 i 7 oed cyhoeddwyd llyfrau yn canolbwyntio ar ffeithiau amrywiol ar adeiladau diddorol yng Nghymru, chwaraeon, ayb. Mae'r llyfrau'n cynnwys lluniau lliwgar, ac mae'r ffeithiau i gyd yn cael eu cyflwyno mewn dulliau hwyliog a diddorol.