Yn dilyn derbyn nawdd gan Gangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, mae Peniarth wedi cyhoeddi adnodd newydd sy’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gyflwyno gwybodaeth, syniadau a barn drwy wrando, cydweithio a thrafod, er mwyn sbarduno eu sgiliau llefaredd.
Mae’r adnodd Llun a Thrin, yn becyn sy’n cynnwys set o 30 o gardiau lliwgar sy’n cynnwys delweddau a fydd yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddisgirfio’r hyn a welant gan ddehongli, defnyddio’r dychymyg a mynegi barn. Yn ogystal a delweddau amrywiol mae Llun a Thrin yn cynnig syniadau i athrawon o ran cwestiynau trafod a gweithgareddau.
Dywedodd Cerys Gruffydd, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman, a fu’n cynorthwyo’r Ganolfan i dreialu’r adnodd gyda’u disgyblion yn ystod y broses ddatblygu Mae Llun a Thrin yn bwydo’r fframwaith sgiliau llythrennedd yn berffaith. Er ei fod wedi ei dargedu ar gyfer sgiliau llythrennedd, mae’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau meddwl a sgiliau trafod mewn grŵp. Mae modd gwneud y gweithgareddau ymarferol dan arweiniad athro, cynorthwydd, neu’n annibynnol, ac mae’r holl sgiliau sy’n dod ohonno yn werthfawr iawn”.
Yn ogystal â’r adnodd print, mae Peniarth wedi datblygu ystod o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein, sydd ar gael am ddim ar HWB, sef platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru.
Mae Llun a Thrin, ar gael i’w brynu o siop Peniarth, neu o’ch siop lyfrau lleol am £14.99.