Mae’r awduron poblogaidd, Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones wedi cyhoeddi dwy gyfres o lyfrau stori a cherddi newydd i blant gyda Peniarth. Mae’r set gyflawn hon yn cynnwys undeg chwech o lyfrau, wyth llyfr i bob cyfres, ac maent yn dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio’r dref.
Mae themau’r llyfrau o fewn y ddwy gyfres yn amrywio o straeon am anifeiliaid y dref, i straeon am y seiniau gwahanol a geir mewn tref, a lliwiau a bwydydd o bedwar ban y byd a geir yn y dref.
Wedi eu hariannu’n rhannol gan Cangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru, mae’r llyfrau’n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd, yn ogystal â’u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion.
Cafodd y ddwy gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref yn cael eu lansio ym marchnad tref Caerfyrddin ddydd Gwener, 10 o Ionawr 2020, gyda helfa drysor i blant Ysgol y Dderwen ac Ysgol Llangynnwr dan arweiniad yr awduron Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, wrth iddynt archwilio amgylchedd y farchnad.
Mae’n debyg ein bod ni, bron bob un ohonom, yn tueddu rhuthro drwy le fel marchnad heb bwyllo i edrych a gweld, i glywed seiniau ac arogleuon ac i ryfeddu at y byd o’n cwmpas. Gobeithio bydd y llyfrau bach hyn yn gymorth i helpu’r plant a’u harweinwyr i oedi o dro i dro a mwynhau eu hamgylchfyd, boed yn wledig neu’n drefol, yn bentref neu’n ddinas. - Mererid Hopwood
Yn ogystal â'r llyfrau stori a cherddi, mae set o gardiau her ar gyfer pob llyfr yn ogystal â phosteri yn dod gyda phob pecyn cyflawn. Mae'r cardiau her yn cynnig syniadau i athrawon ar weithgareddau penodol y gellir eu gwneud sy'n gysylltiedig â phob llyfr.
Archwilio’r Amgylchedd yn y dref oedd y cyfresi llyfrau cyntaf i Peniarth eu cyhoeddi ers lansio eu brand a’u logo newydd fel rhan o ddathliadau Peniarth yn ddeng mlwydd oed yn 2019. Mae Peniarth wedi mabwysiadu Hebog fel logo, sef aderyn a welir mewn llun nodedig o fewn un o lawysgrifau Peniarth. Dywedodd Mr Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Peniarth, “Dyma aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth, ac mae Peniarth wedi ymroi’n llwyr i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau a fydd yn darparu gweledigaeth a rhyddid i’r dysgwr ffynnu a buddugoliaethu ar hyd eu bywyd, ac mae’r gyfres ddiweddaraf hon yn cyfrannu’n helaeth at hynny wrth annog plant o oed ifanc iawn i fwynhau archwilio’r amgylchedd a dod o hyd i atebion”.
Mae llyfrau’r ddwy gyfres ar gael i’w prynu fel setiau cyflawn, neu’n unigol o siop arlein Peniarth, neu o’ch siop lyfrau lleol.