Yn 2019 dathlwyd dengmlwyddiant Peniarth. Fel rhan o’r dathliadau mae’r Ganolfan wedi ail frandio ac yn lansio logo newydd sbon.
Sefydlwyd Canolfan Peniarth yn 2009 gan Goleg y Drindod, sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach, fel adain gyhoeddi adnoddau i’r Coleg. Erbyn heddiw, mae’r Ganolfan wedi datblygu i fod yn un o’r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.
Gyda dros tri chant o gyhoeddiadau print a thros hanner cant o adnoddau digidol i’w henw, sy’n cynnwys wyth o apiau rhyngweithiol, mae Peniarth wedi cyhoeddi trawsdoriad eang o lyfrau ac adnoddau pwrpasol ac apelgar i bob oed. Dywedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, “Wrth edrych yn ôl ar yr holl gyhoeddiadau dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae yna gatalog swmpus o lyfrau ac adnoddau wedi eu cynhyrchu, ac mae hi wedi bod yn fraint i allu cydweithio gyda chymaint o bobl ar hyd y blynyddoedd, yn awduron profiadol, athrawon arloesol, amryw o unigolion creadigol amryddawn, yn ogystal â phartneriaid amlwg megis S4C, Llywodraeth Cymru, y pedwar consortia addysg a’r awdurdodau addysg lleol - partneriaid sydd wedi’n galluogi ni i esblygu ar hyd y blynyddoedd, gan ein cynorthwyo i gyrraedd y garreg filltir nodedig hon.”
Fel rhan o’r broses ail frandio, mae Peniarth wedi mabwysiadu logo newydd, sy’n cynnwys llun hebog, - aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth. Daw’r llun allan o un o lawysgrifau Peniarth, sef y casgliad hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, sy’n cynnwys llyfr du Caerfyrddin. Ceir esboniad llawn o hanes y logo ar wefan newydd sbon Peniarth, www.peniarth.cymru.
Un o’r adnoddau cyntaf i Peniarth ei chyhoeddi oedd Tric a Chlic, sef rhaglen ffoneg synthetig, strwythuredig sy’n sail i addysgu a sillafu ynghyd ag adeiladu geirfa a datblygu darllen ystyrlon. Yn sgil llwyddiant y rhaglen, cyhoeddwyd addasiad o’r pecyn ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg. Dywedodd Gwydion Wynne, “Tric a Chlic yw un o’n cyhoeddiadau mwyaf llwyddiannus ni gyda mwyafrif ysgolion cyfrwng Cymraeg Cymru, a hyd yn oed Patagonia, yn gweithredu’r rhaglen. Yn sgil datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022, a chyfraniad y cwricwlwm hwn i nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym wedi datblygu addasiad arbennig o’r rhaglen ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda holl ysgolion rhanbarth y de Orllewin eisoes wedi buddsoddi yn y rhaglen".
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Caerfyrddin a Llambed, “Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Canolfan Peniarth yn ystod y degawd diwethaf. Bu ei chyfraniad i gyhoeddiadau addysgol Cymraeg a dwyieithog yn un nodedig iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’r sylfeini a osododd yn golygu y gall edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol gan barhau i gyhoeddi adnoddau pwrpasol o safon uchel a, thrwy hynny, gyfrannu ymhellach at godi safonau yn ysgolion Cymru.”