CGC Logo - Peniarth

Lansio cyfres o lyfrau darllen cilyddol i ddatblygu sgiliau ymateb a dadansoddi

Mae Canolfan Peniarth wedi lansio cyfres o lyfrau darllen newydd unigryw, sydd wedi eu hawduro yn benodol ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Gydag un o lyfrau’r gyfres yn edrych ar hanes llongddrylliad y Royal Charter oddi ar arfordir Ynys Môn, lansiwyd y gyfres newydd yng nghwmni disgyblion Ysgolion Cynradd Moelfre yng Nghanolfan Ymwelwyr RNLI Moelfre, lle mae cofeb ac arddangosfa ar hanes y llongddrylliad.

Strategaeth i wella dealltwriaeth o ddarllen yw darllen cilyddol, a nod llyfrau darllen cilyddol yw i arfogi dysgwyr 7 i 11 oed gyda’r sgiliau angenrheidiol i hunanwella eu dealltwriaeth o destunau anghyfarwydd. Mae cyfres Cnoi Cil wedi ei chyhoeddi gan Ganolfan Peniarth yn cynnwys pum llyfr sy’n cynnig nifer o gyfleodd i ysgogi trafodaeth grŵp.

Wedi eu hawduro gan Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, a Sian Vaughan, mae’r gyfres yn cynnwys llyfrau ar amrywiaeth o destunau, o hanes ein hanthem genedlaethol, pêl-droed yng Nghymru a Rali Cymru GB, i hanes Dic Penderyn, Paul Robeson a llongddrylliad Y Royal Charter.

Er mwyn cynorthwyo i ysgogi trafodaeth ymysg tîm o ddarllenwyr, mae set o gardiau rôl yn dod gyda’r llyfrau, gyda chyfanswm o 5 rôl, sef Rhagfynegwr, Esboniwr, Cwestiynwr, Crynhowr ac Arweinydd.

Dywedodd Mr Gwydion Wynne, “Mae’r gyfres Cnoi Cil yn wahanol iawn i’r cyfresi eraill o lyfrau yr ydym wedi eu cyhoeddi dros y blynyddoedd yn yr ystyr eu bod wedi cael eu hawduro yn benodol ar gyfer darllen tîm, ac mae’n un o’r ychydig iawn o gyfresi llyfrau darllen cilyddol sydd ar gael yn y Gymraeg. Mae cyfoeth o themâu amrywiol o fewn y llyfrau a fydd yn sicr o sbarduno trafodaeth ehangach, gydag adran benodol dweud dy ddweud i bob llyfr sy’n annog dysgwyr i ymarfer eu sgiliau siarad a gwrando trwy ddwyn i gof rai o’r ffeithiau maent wedi eu dysgu ar ôl ei darllen”.

Gan mai llyfrau darllen tîm yw’r llyfrau hyn, am £9.99 maent yn dod mewn set o 5, felly ceir pum copi o’r llyfr ynghyd â set o gardiau chwarae rôl. Mae modd prynu pecyn cyflawn o’r gyfres, sef pum copi o bob un o’r chwe teitl am £50. Mae manylion llawn yr holl deitlau i’w cael ar siop ar-lein y Ganolfan.