CGC Logo - Peniarth

Lleisiau Glannau Teifi - Cyhoeddi llyfr sy'n cofnodi hanes rhai o gymeriadau Dyffryn Teifi

Ar ôl ymddeol wedi 39 mlynedd o addysgu plant, mae’r gyn athrawes, Dwynwen Teifi wedi cyhoeddi llyfr unigryw sy’n adrodd hanesion am amrywiaeth o gymeriadau sy’n byw yn Nyffryn Teifi. Cafodd Lleisiau Glannau Teifi ei lansio yng nghanolfan Y Ffynnon ar Ragfyr y 4ydd 2019, lle bu'r awdur yn adrodd rhai o hanesion y bobl sy'n ymddangos yn y llyfr.

Yn dilyn ei hymddeoliad, llwyddodd yr awdur i ennill gradd M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac ar ddiwedd y cwrs hwnnw cyflwynodd waith ar gofiannau pobl leol, ac ychwanegiad at y gwaith hwnnw a geir yn Lleisiau Glannau Teifi.

O fewn cloriau’r llyfr, darllenwn am fywyd sawl amaethwr ac athro, nyrs a mynyddwraig, telynores a chynghorydd, ymgyrchydd brwd ac ifaciwi. Mae yma hefyd gyfeiriadau at rai a anwyd y tu allan i Gymru, ac un sydd â gwreiddiau’n mynd â ni mor bell a gwlad Chile.

Mae’r llyfr yn gofnod hanesyddol o fywyd a fu a ffordd o fyw sydd bellach wedi newid yn sylweddol.

Mae gan yr holl unigolion eu hanes diddorol o fywyd fel yr oedd e ’slawer dydd a’r newidiadau a welwyd ar hyd eu taith o drigain mlynedd a mwy. Cawn gyfle i agor y drws ar eu bywydau yn y gyfrol hon. Gobeithio bydd y gyfrol yn rhoi boddhad i’r darllenydd ynghyd â rhoi cyfle i ddod i adnabod y cymeriadau’n well - Dwynwen Teifi.