CGC Logo - Peniarth

Cyhoeddi casgliad o fonologau Cymraeg gan Cefin Roberts ar faes y Brifwyl

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019 lansiodd Cefin Roberts gasgliad o fonologau, hen a newydd, cyfrwng Cymraeg, ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drama Lefel A ac ar lefel Prifysgol.

Gyda myfyrwyr ar hyn bryd yn gorfod chwilio am ddarnau o fonologau sydd ar wasgar i bob pwrpas, neu eu cyfieithu i’r Gymraeg eu hunain, nod y casgliad hwn yw darparu adnodd canolog lle mae modd i fyfyrwyr, fynd ato i ddewis a dethol monolog i’w pherfformio fel rhan o’u hastudiaethau. Golygydd y casgliad yw Cefin Roberts, a Cefin sydd hefyd wedi cyfieithu nifer o’r monologau i’r Gymraeg. Mae’r casgliad wedi ei gyhoeddi gan Canolfan Peniarth, canolfan gyhoeddi adnoddau addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Gwydion Wynne, “Casgliad o fonologau ar gyfer bechgyn a merched yw’r gyfrol newydd hon. Mae nifer o fonologau ar gael wedi’u cyfieithu eisoes fel y gwyddom, ond maent ar wasgar, ac yn achosi problem i fyfyrwyr sy’n dymuno eu perfformio. Gyda chymorth Cefin Roberts felly, un o fawrion y byd drama yma yng Nghymru, rydyn ni wedi casglu dros ugain o fonologau at ei gilydd".

Mae’r monologau yn amrywio o weithiau dramodwyr clasurol megis Shakespeare, i ddramodwyr cyfredol o Gymru, megis Aled Jones Williams a Gary Owen, ac ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan HWB Cymru, sef platfform adnoddau addysg Llywodraeth Cymru. Cafodd y gyfrol ei lansio’n swyddogol ar faes y Brifwyl ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.