CGC Logo - Peniarth

Aur am Air

Ap cyffrous deniadol o weithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

Adnodd deniadol sy'n hybu dysgu annibynnol plant a phobl ifanc gan gefnogi'r iaith Gymraeg yn yr ysgol ac ar yr aelwyd gartref.

Manyleb:

Cynhyrchu ap a fydd yn asesu lefelau llythrennedd y dysgwr ar gychwyn y rhaglen drwy roi prawf diagnostig iddo er mwyn gweld ar ba lefel y mae (o ran adnabod llythrennau a chyfuno llythrennau gan adeiladu at lefelau sgiliau sillafu). Yna bydd yr ap yn ei dywys drwy gyfres o gemau/gweithgareddau addas er mwyn cefnogi datblygiad sillafu yn y Gymraeg. Bydd hwn yn adnodd deniadol i hybu dysgu annibynnol gan gefnogi gwaith yr athrawon yn y dosbarth.

Ein Ymagwedd:

Wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r Ap, bu’r Ganolfan yn cydweithio gydag arbenigwyr iaith ac athrawon ar draws Cymru, gan gynnwys arbenigwyr anghenion dysgu ychwanegol yn benodol, er mwyn sicrhau fod yr ap yn gymorth i’r dysgwyr hynny sy’n cael trafferth adnabod a dysgu seiniau yn y Gymraeg. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau deniadol i ddisgyblion o bob oed ac mae modd ei ddefnyddio er mwyn cefnogi gwaith sy’n cael ei wneud eisoes yn yr ystafell ddosbarth ac i hyrwyddo gweithio’n annibynnol.