CGC Logo - Peniarth

Tric a Chlic

Rhaglen ffoneg synthetig wreiddiol a deniadol yn y Gymraeg.

Rhaglen ffoneg synthetig sy’n sail i addysgu cyfuno (adeiladu) seiniau i ddarllen a segmentu (torri) seiniau i sillafu gan ddatblygu geirfa a chanfod ystyr mewn testun.

Mae 3 lefel i Tric a Chlic;

Lefel 1 - Ym mhecyn Cam 1 cyflwynir geiriau cytsain, llafariad, cytsain. Yn gynwysiedig mae 28 o lyfrau (6 copi o bob un); Cardiau llun a gair, cardiau darllen a stribedi darllen; Llawlyfr a CD-rom sy'n cynnwys taflenni asesu, gweithgareddau ychwanegol, cymorth i rieni a llawer mwy y gellir eu hargraffu eich hun.

Lefel 2 - Ym mhecyn Cam 2 cyflwynir geiriau pedair llythyren e.e. cytsain, llafariad, cytsain, cytsain ynghyd â geiriau cytsain, cytsain, llafariad, cytsain gan symud ymlaen i eiriau deusill.

Lefel 3 - Ym mhecyn Cam 3 cyflwynir geiriau sydd â’r un sain ond gwahanol sillafiad ynghyd â geiriau yr un sillafiad ond gwahanol sain gan symud ymlaen i eiriau aml-sillafog. Yn gynwysiedig mae 10 o lyfrau (6 copi o bob un); cardiau geiriau, cardiau darllen.

Manyleb:

Creu rhaglen ffoneg synthetig, systematig a dilyniadol i’r Cyfnod Sylfaen. Nod y cynllun yw:

  • addysgu sain a ffurf llythrennau
  • addysgu strategaethau adeiladu i ddarllen geiriau a thorri geiriau i sillafu
  • annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen o'r dechrau un
  • cynnig dulliau addysgu rhyngweithiol
  • atgyfnerthu'r camau yn rheolaidd
  • symud yn gyflym o un cam i'r llall

Ein Ymagwedd:

Yn ogystal â'r 3 pecyn sydd ar gael, mae apiau Tric a Chlic ar gael am ddim ar Apple App Store, ac ar wefan Tric a Chlic ei hun.

Cam 1 - App Store | Gwefan Tric a Chlic

Cam 2 a 3 - App Store | Gwefan Tric a Chlic